Lleoliad y cyfarfod:
Siambr Hywel - Tŷ Hywel
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
21 Hydref 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15399
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.24
Dechreuodd yr eitem am 15.00
Dechreuodd yr eitem am 15.48
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl
Dechreuodd yr eitem am 16.26
Dechreuodd yr eitem am 17.01
NDM9015 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2025.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.08
NDM9017 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2025.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.13
NDM9016 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2025.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.21
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM9014 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo i'r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Chwefror 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
9 |
15 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM9013 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2025 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2025, 7 Mai 2025 a 10 Hydref 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
37 |
9 |
2 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM9012 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd Plant Cymru.
Anfonwyd copi o'r adroddiad drwy e-bost at Aelodau'r Senedd ar 14 Hydref 2025.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1: Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi galwad y Comisiynydd am gymorth ariannol uniongyrchol i blant mewn tlodi dwys, gan gynnwys taliad plant i Gymru, ar sail model yr Alban.
Yn croesawu ymrwymiad Plaid Cymru i gyflwyno taliad o’r fath.
Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cynigion Plaid Cymru i’w gyflwyno.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM9012 Jane Hutt AS (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2024-25 Comisiynydd Plant Cymru.
Anfonwyd copi o'r adroddiad drwy e-bost at Aelodau'r Senedd ar 14 Hydref 2025.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.30.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.33
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 22 Hydref 2025